Mae Plas Glyn-y-Weddw yn blasdy Gothig a adeiladwyd yn 1857 ger traeth bendigedig Llanbedrog yn Llŷn. Mae cyfuniad o atyniadau sydd yn creu profiad gwych a bythgofiadwy ar gyfer ymwelwyr o bell ac agos yn cael eu cynnig.
Ymddiriedolaeth elusennol sydd yn gyfrifol am y Plas ac mae rhaglen lawn o arddangosfeydd o waith artistiaid sydd wedi eu lleoli ledled Cymru a thu hwnt yn cael eu cynnal yn y gofodau oriel ysblennydd.
Hefyd ar werth yn yr oriel mae crefftau o bob math, gwaith serameg celfydd, cardiau o waith artistiaid, llyfrau a phrintiadau.
Adeiladwyd caffi newydd unigryw yn 2022 i wasanaethu'r Plas, mae'r strwythr yn waith celf ynddo'i hun, wedi ei gynllunio ynghyd a'i adeiladu i raddau helaeth gan gerflunydd. Gweinir bwyd cartref wedi ei goginio ar y safle yn y caffi, ac mae yn enwog am ei gacennau hyfryd!
Mae amrywiaeth o gyngherddau, sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol hefyd ar yr arlwy, a pherfformiadau theatr awyr agored yn y goedwig.
Yn ychwanegol, mae rhwydwaith o lwybrau troed yn arwain trwy'r goedwig gyfagos, a adnabyddir fel 'y Winllan' i bentir Mynydd Tir y Cwmwd ble gellir mwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.
Mae'r oriel a'r caffi yn agored yn ddyddiol, gan gau dros y Nadolig ac yn ystod mis Ionawr.
Plas Glyn-y-Weddw is a Gothic mansion built in 1857 near the sheltered beach at Llanbedrog in Llŷn. A combination of attractions are on offer creating a wonderful and memorable experience for visitors from near and far.
Managed by a charitable trust as a social enterprise, a full program of exhibitions of work by artists based throughout Wales and beyond are held in numerous spectacular gallery spaces.
Also on offer are a variety of crafts, ceramics, cards by artists, books and prints. A unique new cafe was built in 2022 which is a work of art by itself, designed and largely built by a sculptor. The cafe is famous for its delicious cakes, all the food is homemade, and cooked onsite.
A variety of concerts, talks, workshops and artistic and cultural events are also on offer at the Plas and the outside theatre situated in the woodland.
In addition, a network of footpaths lead through the nearby woodland, known as 'y Winllan' to the headland of Mynydd Tir y Cwmwd where magnificent views of Ceredigion Bay can be enjoyed.
The gallery and cafe are open daily, closing over Christmas and during January.
Website www.oriel.org.uk